Pwyll Pendefig Dyfed a oedd yn arglwydd ar seith | ||
cantref Dyfed. A threiglweith ydd oedd yn Arberth, prif lys | ||
iddaw, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef | ||
cyfeir o'i gyfoeth a fynnei ei hela, Glynn Cuch. Ac ef a | ||
5 | gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a ddoeth hyd ym | |
Mhenn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A | ||
thrannoeth yn ieuenctid y dydd cyfodi a orug, a dyfod i Lynn | ||
Cuch i ellwng ei gwn dan y coed. A chanu ei gorn, a dechreu | ||
dygyfor yr hela, a cherdded yn ol y cwn, ac ymgolli a'i | ||
10 | gydymdeithon. | |
Ac fal y bydd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a | ||
glywei llef erchwys arall, ac nid oeddynt unllef, a hynny yn | ||
dyfod yn erbyn ei erchwys ef. Ac ef a welei lannerch yn y | ||
coed o faes gwastad; ac fal oedd ei erchwys ef yn ymgael ag | ||
15 | ystlys y llannerch, ef a welei garw o flaen yr erchwys arall. | |
A pharth a pherfedd y llannerch, llyma yr erchwys a oedd yn | ||
ol yn ymordiwes ag ef, ac yn ei fwrw i'r llawr. | ||
Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb | ||
hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o'r a welsei ef o helgwn y | ||
20 | byd, ni welsei cwn unlliw ag wynt. Sef lliw oedd arnunt, | |
claerwyn llathreidd, ac eu clusteu yn gochion. Ac fal y | ||
llathrei wynned y cwn, y llathrei coched y clusteu. Ac ar | ||
hynny at y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a laddyssei y | ||
carw i ymdeith, a llithiaw ei erchwys ei hunan ar y carw. | ||
25 | Ac fal y bydd yn llithiaw y cwn, ef a welei farchawg | |
yn dyfod yn ol yr erchwys i ar farch erchlas mawr; a chorn | ||
canu am ei fwnwgl, a gwisg o frethyn llwydlei amdanaw yn | ||
wisg hela. Ac ar hynny y marchawg a ddoeth attaw ef, a | ||
dywedud fal hynn wrthaw, "A unben", heb ef, "mi a wnn pwy | ||
30 | wyt ti, ac ni chyfarchaf i well it." | |
"Ie', heb ef, "ac atfydd y mae arnat o anrydedd fal na's | ||
dylyei." | ||
"Dioer", heb ef, "nid teilyngdawd fy anrydedd a'm | ||
hetteil am hynny." | ||
35 | "A unben", heb ynteu, "beth amgen?" | |
"Yrof i a Duw", heb ynteu, "dy anwybod dy hun a'th | ||
ansyberwyd." | ||
"Pa ansyberwyd, unben, a weleist ti arnaf i?" | ||
"Ni weleis ansyberwyd fwy ar wr", heb ef, "no gyrru yr | ||
40 | erchwys a laddyssei y carw i ymdeith, a llithiaw dy | |
erchwys dy hun arnaw. Hynny", heb ef, "ansyberwyd oedd: a | ||
chynn nid ymddialwyf a thi, yrof i a Duw", heb ef, "mi a wnaf | ||
o anglod it gwerth cann carw." | ||
"A unben", heb ef, "o gwneuthum gam, mi a brynaf dy | ||
45 | gerennydd." | |
"Pa ddelw", heb ynteu, "y pryny di?" | ||
"Wrth fal y bo dy anrydedd, ac ni wnn i pwy wyt ti." | ||
"Brenin corunawg wyf i yn y wlad ydd hanwyf oheni." | ||
"Arglwydd", heb ynteu, "dydd da it; a pha wlad ydd | ||
50 | hanwyt titheu oheni?" | |
"O Annwfn", heb ynteu. "Arawn frenin Annwfn wyf i." | ||
"Arglwydd", heb ynteu, "pa ffurf y caf i dy gerennydd | ||
di?" | ||
"Llyma wedd y ceffy", heb ynteu. "Gwr yssydd | ||
55 | gyferbyn ei gyfoeth a'm cyfoeth inneu yn rhyfelu arnaf yn | |
wastat. Sef yw hwnnw, Hafgan frenin o Annwfn. Ac er | ||
gwared gormes hwnnw i arnaf (a hynny a elly yn hawdd) y | ||
ceffy fy ngherennydd." | ||
"Minneu a wnaf hynny", heb ynteu, "yn llawen. A manag | ||
60 | ditheu imi pa ffurf y gallwyf hynny." | |
"Managaf", heb ynteu. "Llyma fal y gelly. Mi a wnaf a | ||
thi gydymdeithas gadarn. Sef fal y gwnaf. Mi a'th roddaf | ||
di i'm lle i yn Annwfn, ac a roddaf y wreig decaf a weleist | ||
eiroed i gyscu gyda thi beunoeth, a'm pryd inneu a'm | ||
65 | hansawdd arnat ti, hyd na bo na gwas ystafell, na swyddawg, | |
na dyn arall o'r a'm canlynwys i eiroed, a wypo na bo mifi | ||
fych ti. A hynny", heb ef, "hyd ym mhenn y flwyddyn o'r | ||
dydd afory. A'n cynnadl yna yn y lle honn." | ||
"Ie", heb ynteu, "cyd bwyf i yno hyd ym mhenn y | ||
70 | flwyddyn, pa gyfarwydd a fydd imi o ymgael a'r gwr a | |
ddywedy di?" | ||
"Blwyddyn", heb ef, "i heno, y mae oed yrof i ag ef, ar y | ||
ryd. A bydd di i'm rhith yno", heb ef. "Ac un dyrnawd a | ||
roddych di iddaw ef; ni bydd byw ef o hwnnw. A chyd archo | ||
75 | ef iti rhoddi yr eil, na dyro, er a ymbilio a thi. Er a roddwn | |
i iddaw ef hagen, cystal a chynt ydd ymladdei a mi | ||
drannoeth." | ||
"Ie", heb y Pwyll, "beth a wnaf i i'm cyfoeth?" | ||
"Mi a baraf", heb yr Arawn, "na bo i'th gyfoeth na gwr | ||
80 | na gwreig a wypo na bo tidi fwyf i. A mifi a af i'th le di." | |
"Yn llawen", heb y Pwyll, "a mifi a af rhagof." | ||
"Dilesteir fydd dy hynt ac ni rusia dim rhagot, yny | ||
ddelych i'm cyfoeth i: a mi a fyddaf hebryngiad arnat." | ||
Ef a'e hebryngawdd yny welas y llys a'r cyfannedd. | ||
85 | "Llyna", heb ef, "y llys a'r cyfoeth i'th feddiant. A chyrch y | |
llys. Nid oes ynddi neb ni'th adnapo; ac wrth fal y gwelych | ||
y gwasanaeth ynddi, ydd adnabyddy foes y llys." | ||
Cyrchu y llys a orug ynteu. Ac yn y llys ef a welei | ||
hundyeu ac yneuaddeu, ac ystefyll, a'r arddurn tecaf a welsei | ||
90 | neb o adeiladeu. Ac i'r neuadd rygyrchwys i ddiarchenu. Ef | |
a ddoeth macwyfeid a gweison ieueinc i ddiarchenu, a phawb | ||
fal y delynt cyfarch gwell a wneint iddaw. Deu farchawg a | ||
ddoeth i wared ei wisg hela i amdanaw, ac i wiscaw eurwisg | ||
o bali amdanaw. | ||
95 | A'r neuadd a gyweirwyd. Llyna y gwelei ef teulu ac | |
yniferoedd, a'r nifer harddaf a chyweiraf o'r a welsei neb yn | ||
dyfod i mywn, a'r frenhines ygydag wynt, yn decaf gwreig o'r | ||
a welsei neb, ac eurwisg amdanei o bali llathreid. Ac ar | ||
hynny, i ymolchi ydd aethant, a chyrchu y borddeu a orugant, | ||
100 | ac eistedd a wnaethant fal hynn -- y frenhines o'r neill parth | |
iddaw ef, a'r iarll, debygei ef, o'r parth arall. A dechreu | ||
ymddiddan a wnaeth ef a'r frenhines. Ac o'r a welsei eirioed | ||
wrth ymddiddan a hi, disymlaf gwreig a boneddigeidaf ei | ||
hannwyd a'i hymddiddan oedd. A threulaw a wnaethant | ||
105 | bwyd a llynn a cherddeu a chyfeddach. O'r a welsei o holl | |
lysoedd y ddaear, llyna y llys ddiwallaf o fwyd a llynn, ac | ||
eurlestri a theyrndlyseu. | ||
Amser a ddoeth iddunt i fyned i gyscu, ac i gyscu ydd | ||
aethant, ef a'r frenhines. Ygydag ydd aethant yn y gwely, | ||
110 | ymchwelud ei wyneb at yr erchwyn a orug ef, a'i gefn attei | |
hitheu. O hynny hyd trannoeth, ni ddywod ef wrthi hi un geir. | ||
Trannoeth, tirionwch a ymddiddan hygar a fu yryngthunt. | ||
Peth bynnag o garueiddrwydd a fei yryngthunt y dydd, ni fu un | ||
nos hyd ym mhenn y flwyddyn amgen nog a fu y nos gyntaf. | ||
115 | Treulaw y flwyddyn a wnaeth trwy hela, a cherddeu, a | |
chyfeddach, a charueiddrwydd, ac ymddiddan a chydym- | ||
deithon, hyd y nos ydd oedd y gyfranc. Yn oed y nos honno, | ||
cystal y doi i gof i'r dyn eithaf yn yr holl gyfoeth yr oed ac | ||
iddaw ynteu. Ac ynteu a ddoeth i'r oed, a gwyrda ei gyfoeth | ||
120 | ygydag ef. Ac ygydag y doeth i'r ryd, marchawg a gyfodes i | |
fynydd, ac a ddywod fal hynn: | ||
"A wyrda", heb ef, "ymwerendwch yn dda. Yrwng y deu | ||
frenin y mae yr oed hwnn, a hynny yrwng y deu gorff wylldeu. | ||
A phob un ohonunt yssydd hawlwr ar ei gilydd, a hynny am | ||
125 | dir a daear. A segur y digawn pawb ohonawch fod, eithr | |
gadu yryngthunt wylldeu." | ||
Ac ar hynny y deu frenin a nesaussant ygyd am berfedd | ||
y ryd i ymgyfarfod. Ac ar y gosod cyntaf, y gwr a oedd yn | ||
lle Arawn a osodes ar Hafgan ym mherfedd bogel ei darian, | ||
130 | yny hyllt yn neu hanner, ac yny dyrr yr arfeu oll, ac yny fydd | |
Hafgan hyd ei freich a'i baladr dros pedrein ei farch i'r | ||
llawr, ac angheuawl dyrnawd ynddaw ynteu. | ||
"A unben", heb yr Hafgan, "pa ddylyed a oedd iti ar fy | ||
angeu i?" Nid ydd oeddwn i yn holi ddim iti. Ni wyddwn | ||
135 | achos it hefyd i'm lladd i: ac er Duw", heb ef, "canys | |
dechreueist fy lladd, gorffen." | ||
"A unben". heb ynteu, "ef a eill fod yn edifar gennyf | ||
gwneuthur a wneuthum it. Ceis a'th laddo: ni laddaf i di." | ||
"Fy ngwyrda cywir", heb yr Hafgan, "dygwch fi oddyma: | ||
140 | neud terfynedig angeu imi. Nid oes ansawdd imi i'ch | |
cynnal chwi bellach." | ||
"Fy ngwyrda inneu", heb y gwr a oedd yn lle Arawn, | ||
"cymerwch eich cyfarwydd, a gwybyddwch pwy a ddylyo bod | ||
yn wyr imi." | ||
145 | "Arglwydd", heb y gwyrda, "pawb a ddyly, caníd oes | |
frenin ar holl Annwfn namyn ti." | ||
"Ie", heb ynteu, "a ddel yn waredawg, iawn yw ei | ||
gymryd. A'r ni ddel yn ufydd, cymmeller o nerth cleddyfeu." | ||
Ac ar hynny, cymryd gwrogaeth y gwyr, a dechreu | ||
150 | gwerescyn y wlad. Ac erbyn hanner dydd drannoeth, ydd | |
oedd yn ei feddiant y dwy deyrnas. | ||
Ac ar hynny, ef a gerddwys parth a'i gynnadl, ac a | ||
ddoeth i Lynn Cuch. A phann ddoeth yno, ydd oedd Arawn | ||
frenin Arawn yn ei erbyn. Llawen fu pob un wrth ei gilydd | ||
155 | ohonunt. | |
"Ie", heb yr Arawn, "Duw a dalo it dy gydymdeithas: mi | ||
a'e ciglef." | ||
"Ie", heb ynteu, "pann ddelych dy hun i'th wlad, ti a | ||
wely a wneuthum i yrot ti." | ||
160 | "A wnaethost", heb ef, "yrof i, Duw a'e talo it." | |
Yna y rhoddes Arawn ei ffurf a'i ddrych ei hun i Pwyll | ||
Pendefig Dyfed, ac y cymerth ynteu ei ffurf ei hun a'e | ||
ddrych. Ac y cerddawdd Arawn rhacddaw parth a'i lys i | ||
Annwfn, ac y bu ddigrif ganthaw ymweled a'i ynifer ac a'i | ||
165 | deulu, canís rywelsei ef wy ys talm. Wynteu, hagen, ni | |
wybuyssynt ei eiseu ef, ac ni bu newyddach ganthunt ei | ||
ddyfodiad no chynt. | ||
Y dydd hwnnw a dreulwys trwy ddigrifwch a llywenydd, | ||
ac eistedd ac ymddiddan a'i wreig ac a'i wyrda. A phann fu | ||
170 | amserach cymryd hun no chyfeddach, i gyscu ydd aethant. Y | |
wely a gyrchwys, a'i wreig a aeth attaw. Cyntaf y gwnaeth | ||
ef ymddiddan a'i wreig, ac ymyrru ar ddigrifwch serchawl a | ||
chariad arnei. A hynny ni orddyfnassei hi ys blwyddyn, a | ||
hynny a feddyliwys hi. | ||
175 | "Oi a Dduw", heb hi, "pa amgen feddwl yssydd unddaw | |
ef heno, nog a fu er blwyddyn i heno?" | ||
A meddyliaw a wnaeth yn hir. A gwedi y meddwl | ||
hwnnw, dihunaw a wnaeth ef, a pharabl a ddywod ef wrthi hi, | ||
a'r eil, a'r trydydd: ac ateb ni chafas ef genthi hi yn hynny. | ||
180 | "Pa achaws", heb ynteu, "ni ddywedy di wrthyf i?" | |
"Dywedaf wrthyt", heb hi. "Na ddywedeis ys blwyddyn | ||
y gymeint yn y cyfryw le a hwnn." | ||
"Paham?", heb ef. "Ys glud a beth ydd | ||
ymddiddanyssam ni." | ||
185 | "Mefl im", heb hi, "er blwyddyn i neithwyr o'r pann | |
elem yn nyblyg yn nillad gwely, na digrifwch, nag ymddiddan, | ||
nag ymchwelud ohonot dy wyneb attaf i -- yn chwaethach a | ||
fei fwy no hynny o'r bu yrom ni." | ||
Ac yna y meddyliwys ef, "Oi a Arglwydd Duw", heb ef, | ||
190 | "cadarn a ungwr y gydymdeithas a diffleeis, a gefeis i yn | |
gydymdeith." Ac yna y dywod ef wrth ei wreig: | ||
"Arglwyddes", heb ef, "na chabla di fifi. Yrof i a Duw", | ||
heb ynteu, "ni chysceis inneu gyda thi er blwyddyn i | ||
neithwyr, ac ni orweddeis. | ||
195 | Ac yna menegi yr holl gyfranc a wnaeth iddi. | |
"I Dduw y dygaf fy nghyffes", heb hitheu, "gafael | ||
gadarn a gefeist ar gydymdeith yn herwydd ymladd a | ||
phrofedigaeth ei gorff, a chadw cywirdeb wrthyt titheu." | ||
"Arglwyddes", heb ef, "sef ar y meddwl hwnnw ydd | ||
200 | oeddwn inneu tra deweis wrthyt ti". | |
"Diryfedd oedd hynny", heb hitheu. | ||
Ynteu Pwyll Pendefig Dyfed a ddoeth i'w gyfoeth ac i'w | ||
wlad. A dechreu ymofyn a gwyrda y wlad, beth a fuassei ei | ||
arglwyddiaeth ef arnunt hwy y flwyddyn honno i wrth | ||
205 | ryfuassei cynn no hynny. | |
"Arglwydd", heb wy, "ni bu gystal dy wybod: ni buost | ||
gynn hygared gwas ditheu: ni bu gynn hawsed gennyt titheu | ||
treulaw dy dda: ni bu well dy dosbarth eiroed no'r flwyddyn | ||
honn." | ||
210 | "Yrof i a Duw", heb ynteu, "ys iawn a beth iwch chwi, | |
diolwch i'r gwr a fu ygyda chwi, a llyma y gyfranc fal y bu" | ||
-- a'e datganu oll o Pwyll iddunt. | ||
"Ie, Arglwydd", heb wy, "diolwch i Dduw caffael ohonot | ||
y gydymdeithas honno; a'r arglwyddiaeth a gawsam ninneu y | ||
215 | flwyddyn honno, ni's attygy ygennym, od gwnn." | |
"Nag attygaf, yrof i a Duw", heb ynteu Pwyll. | ||
Ac o hynny allan, dechreu cadarnhau cydymdeithas | ||
yryngthunt, ac anfon o pob un i'w gilydd meirch a milgwn a | ||
hebogeu a phob gyfryw dlws, o'r a debygei bob un digrifhau | ||
220 | meddwl ei gilydd ohonaw. Ac o achaws ei drigiant ef y | |
flwyddyn honno yn Annwfn, a gwledychu ohonaw yno mor | ||
lwyddanus, a dwyn y dwy deyrnas yn un drwy ei ddewred a'i | ||
filwraeth, y diffygiwys ei enw ef ar Pwyll Pendefig Dyfed, | ||
ac y gelwid Pwyll Penn Annwfn o hynny allan. |
All text copyright © 1996 by Gareth Morgan.
Online layout copyright © 2001 by Daniel Morgan.